Croeso i Bartneriaeth Tri Chopa
Mae Partneriaeth y Tri Chopa yn bodoli er mwyn gwarchod tirweddau trawiadol sydd yn gartref i’r tri mynydd uchaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban: Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis.
Mae Her y Tri Chopa yn un o heriau mynydd mwyaf adnabyddus Prydain. Mae’n cynnwys cerdded i gopa mynyddoedd uchaf yn yr Alban, Lloegr a Chymru: Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa. Gyda’i gilydd, mae’r mynyddoedd hyn yn cynrychioli rhai o dirweddau mwyaf eiconig ac amrywiol yn y DU.
Nid oes un ffordd benodol i gwblhau Her y Tri Chopa. Tra bod rhai’n ceisio cyrraedd copaon y tri mynydd mewn cyfnod byr iawn, mae llawer yn dewis ymestyn yr her dros sawl diwrnod. Trwy gymryd mwy o amser, mae’n haws cynllunio’n well, gwneud penderfyniadau mwy diogel, a mwynhau profiad dyfnach o’r holl ardaloedd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr aros yn hirach, cefnogi busnesau lleol, a lleihau’r pwysau ar y ffyrdd, y llwybrau a’r cymunedau.
Bob flwyddyn, mae miloedd o bobl yn ymgymryd â Her y Tri Chopa, yn aml i godi arian i elusennau neu i gyflawni nodau personol. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod tua 30,000 o bobl yn ymgeisio bob flwyddyn i gyflawni’r her, gan ei gwneud yn un o heriau mynydd mwyaf poblogaidd yn y DU.
Sefydlwyd Partneriaeth y Tri Chopa yn 2013 gan uno’r sefydliadau sy’n gyfrifol am reoli’r tirweddau hyn sydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Ein rôl yw darparu gwybodaeth glir, ffeithiol a dibynadwy i helpu pobl gynllunio eu her yn ddiogel a hyderus.
Drwy weithio gyda’n gilydd, mae’r Bartneriaeth yn cynnig arweiniad clir i’ch helpu i gynllunio profiad o ansawdd uchel o’r tri chopa. Mae’r wefan hon yma i gefnogi teithiau wedi’u cynllunio’n dda, carbon isel, sydd o fudd i bobl a lleoedd. Bydd yn eich helpu i fwynhau’r mynyddoedd, treulio amser yn yr ardaloedd, a chyfrannu’n gadarnhaol at y tirweddau a’r cymunedau sy’n gwneud y tri chopa mor arbennig.
Isod fe welwch wybodaeth gan y sefydliadau sy’n gofalu am bob un o’r tri chopa, gan gynnig cyflwyniad i bob mynydd a’r dirwedd o’u cwmpas.
Uchder: 978m (3209 troedfedd)
Mynydd uchaf Lloegr
Parc Cenedlaethol y Lake District
Uchder: 1344 m (4409 troedfedd)
Mynydd uchaf yr Alban
Partneriaeth Tirwedd Nevis
Uchder: 1085 m (3560 troedfedd)
Mynydd uchaf Cymru
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri