Ben Nevis

Ar uchder o 1345m, Ben Nevis yw’r mynydd uchaf ym Mhrydain. Fe’i gelwir yn annwyl yn “Ben” gan y bobl leol, ac mae’n eistedd o fewn Ardal Olygfaol Genedlaethol Ben Nevis a Glencoe, ac mae rhannau helaeth o Ben a Glen Nevis wedi’u dynodi’n SoDdGA.

Y ddringfa gyntaf a gofnodwyd a oedd yr un a wnaed gan y botanegydd James Robertson ym 1771, heddiw, oherwydd ei statws eiconig a’i  agosrwydd i dref Ucheldirol Fort William, mae Ben Nevis yn denu mwy na 150,000 o bobl i ddringo’r copa bob blwyddyn.

Dringo Ben Nevis:

Yn ogystal â’i uchder, mae Ben Nevis yn cyflwyno her i gyfranogwyr y Tri Chopa oherwydd y risgiau mordwyo, gan gynnwys clogwyni uchel oddi ar ymylon llwyfandir y copa, a cheunentydd serth a pheryglus sy’n agos at y prif drac. Dylech fordwyo’n ofalus a gwneud yn siŵr eich bod chi’n glynu at y prif lwybr. Am wybodaeth bellach a chyngor ar y ddringfa, ewch i weld gwefan Partneriaeth Tirwedd Nevis os gwelwch yn dda.

Cyfanswm y pellter i’r copa ac yn ôl ydi 16km (10 milltir) ac fel arfer mae’n cymryd 6 – 8 awr i’w gwblhau.

Y llwybr:

Llwybr y Mynydd yw’r un a ddefnyddir amlaf i fynd i fyny Ben Nevis ac mae’n cychwyn o faes parcio Canolfan Ymwelwyr Ben Nevis yng Nglen Nevis. Mae llwybr amgen yn rhedeg o Hostel Ieuenctid Glen Nevis sy’n ymuno â Llwybr y Ganolfan Ymwelwyr ar ôl llai nag 1 cilometr. Er bod llwybrau eraill i fyny’r Ben o’r gogledd, mae gofyn i chi feddu ar lefelau uchel o allu technegol, gan gynnwys sgiliau dringo, sgramblo a llywio ar gyfer dringo bob un o’r llwybrau, ac ni ddylid mentro i fyny’r mynydd oni bai bod gennych y sgiliau hyn.

Mae hyd yn oed Llwybr y Mynydd a ddefnyddir fwyaf yn llwybr heriol. Mae’r ddringfa ddi-baid yn dechrau’n agos at lefel y môr ac yn mynd â chi i’r pwynt uchaf yn y DU, felly gwnewch yn siŵr bod gennych lefel briodol o ffitrwydd, yn ogystal â dillad, esgidiau, a chyflenwadau bwyd a dŵr priodol. Gall y tywydd ar y copa fod cymaint â 10 gradd yn oerach nag yn y gwaelod, a dim ond ychydig ddyddiau yn y flwyddyn sydd yna pan welir y Ben heb ei “Het”. Gall gwelededd ar lwyfandir y copa fod yn wael yn aml, gyda cheunentydd a chlogwyni peryglus o’i amgylch, felly argymhellir bod gennych gwmpawd a map gyda chi a dylech wybod sut i’w defnyddio.

Y Ben yn gwisgo’i “Het”

Mae rhagolygon tywydd mynyddig ar gyfer y diwrnod ar gael yn y ganolfan, yn ogystal â staff cymwynasgar a all gynnig cyngor.

Codir tâl am ddefnyddio’r maes parcio, mae yna le i tua 80 o geir a 4 bws yno.

Fel arall, mae gwasanaeth bws yn rhedeg o ganol tref Fort William i Glen Nevis, a fydd yn eich gollwng yn y Ganolfan Ymwelwyr neu’r Hostel Ieuenctid.

Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae Ben Nevis a Glen Nevis yn mynd yn hynod o brysur gydag ymwelwyr. Os ydych chi am barcio ym maes parcio’r Ganolfan Ymwelwyr neu’r Hostel Ieuenctid, rydym yn argymell eich bod chi’n cyrraedd yn gynnar. Os yw’r maes parcio yn llawn, peidiwch â pharcio ar hyd ymylon ffyrdd nac mewn mannau pasio gan fod hyn yn achosi aflonyddwch i drigolion lleol ac ymwelwyr eraill. Y dull sy’n cael yr effaith leiaf wrth ymweld â’r Ben yw parcio yn y dref a defnyddio’r gwasanaeth bws.

Mae copa Ben Nevis yn amgylchedd bregus, y mae nifer eithriadol o uchel o ddringwyr yn ymweld ag o bob blwyddyn. Does dim biniau na thoiledau ar Ben Nevis, felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi gyfarpar digonol i fynd â’ch HOLL sbwriel a gwastraff adref a Pheidiwch â Gadael Dim Ôl ar y mynydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghod Mynediad Awyr Agored Yr Alban ar sut y gallwch greu cyn lleied o effaith â phosibl ar dirwedd Yr Alban. Mae Mynydda’r Alban yn darparu cyngor ychwanegol ar fynd i’r toiled (pan and oes toiled) yn y mynyddoedd. Oherwydd yr effaith yn sgil nifer uchel o ymwelwyr, gofynnwn i chi beidio â gadael unrhyw wastraff dynol ar y Ben a dilyn y cyngor ar bacio popeth i’w gario oddi ar y mynydd.