Scafell Pike

Wasdale yw man geni mynydda Prydain, tirwedd ffermio eiconig a phorth poblogaidd i fynydd uchaf Lloegr, Scafell Pike; sy’n 978 metr neu 3210 troedfedd o uchder. O gopa Scafell Pike gallwch fwynhau golygfeydd panoramig ysblennydd ac ar ddiwrnod clir gogoneddus yn Lakeland, gallwch weld copaon eraill mor bell i ffwrdd ag Ynys Manaw.

Oherwydd natur gymhleth y tir ynghyd a’r amrywiaeth o ffyrdd i fyny ac i lawr, mae llywio Scafell Pike yn heriol, yn enwedig pan gaiff ei daclo yn y nos.

Mae yna wahanol lwybrau i ddewis o’u plith, ac mae bob un ohonynt hefo’i heriau ei hun. Darllenwch y wybodaeth hon gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ofalus cyn i chi gynllunio’ch taith neu edrychwch ar ganllaw Tîm Achub Mynydd Wasdale ar sut i esgyn i fyny’r mynydd o Wasdale.

Cyrraedd yno

Mae Scafell Pike yn rhan o’r Southern Fells, wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd. Gellir cyrchu Scafell Pike o Borrowdale, Wasdale, Eskdale neu Langdale. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gwneud y Tri Chopa yn dechrau o Borrowdale neu Wasdale, gan fod y pellter cerdded yn fyrrach, er ei fod yn dal i fod yn ddringfa fynyddig anodd dros dir garw. Gwiriwch eich llwybr bob amser cyn i chi deithio, ewch â map ffordd a pheidiwch â dibynnu ar Satnav i’ch tywys yno a pheidiwch â disgwyl y byddwch yn gallu cyrraedd yno’n gyflym. Cymerwch ofal ar ffyrdd gwledig a byddwch yn ymwybodol o ac yn ofalus o’r defaid a’r gwartheg.

Os ydych chi’n cwblhau’r her dros fwy na 24 awr neu os ydych eisiau cael golwg ar y llwybrau rydych chi’n bwriadu eu dilyn ac yn hyfforddi ar eu cyfer, gallwch gyrraedd y mannau cychwyn yn gyfleus ac yn gynaliadwy trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gellir cyrraedd Seatoller ar y bws Borrowdale sy’n cynnig gwasanaeth teithio yno’n rheolaidd, bob hanner awr yn yr haf a bob awr yn y gaeaf. Yn ystod misoedd yr haf mae’r Wasdale Explorer yn darparu mynediad o’r orsaf reilffordd yn Ravenglass i Wasdale Head.

Cewch ragor o fanylion yn fan hyn.

Cadwch bobl eraill mewn cof a byddwch yn ystyriol cyn i chi barcio a defnyddiwch y meysydd parcio cyhoeddus. Gall parcio ar ymylon ffyrdd neu o flaen giatffyrdd  niweidio’r amgylchedd, blocio mynediad i gerbydau brys, ffermwyr a bysiau.

Wasdale

Parciwch ym maes parcio Lakehead (NY182 074) sy’n faes parcio talu ac arddangos ac mae toiledau a swyddfa wybodaeth hefo staff wrth law yno. Dylech osgoi parcio ar lawnt pentref Wasdale.

Borrowdale

Cofiwch fod Seathwaite yn bentrefan bach iawn, y ffordd trac sengl yw’r unig fynedfa i gerbydau fferm. Mae defnyddio’r maes parcio yn Seatoller (CA12 5XN) yn lleddfu’r pwysau ac mae pob ceiniog yn cefnogi gwaith cadwraeth yn Borrowdale.

Toiledau Wasdale

Mae toiledau cyhoeddus am ddim ar gael ym maes parcio Lakehead. Mae’n rhaid cludo’r holl wastraff allan o’r dyffryn ecolegol sensitif hwn, felly ceisiwch fynd i’r toiled cyn i chi gyrraedd. Mae toiledau cyhoeddus am ddim ym maes parcio pentref Gosforth ar eich ffordd i mewn.

Helpwch ni i gadw’r cyfleusterau hyn mor lân â phosibl i’n holl ymwelwyr.

Borrowdale

Mae toiled cyhoeddus bach ar gael ar fferm Seathwaite. Cadwch y toiled yn daclus ac yn rhydd o sbwriel. Mae yna hefyd doiledau cyhoeddus am ddim yn Seatoller ar eich ffordd i mewn.

Peidiwch â defnyddio’r mynydd fel toiled awyr agored, mae hyn yn cael effaith sylweddol ar gyflenwadau dŵr lleol, ecoleg, trigolion ac ymwelwyr eraill.

Tywydd

I gael cyngor tywydd lleol, ewch i weld safle Weatherline.

Paratowch ar gyfer pob tywydd, hyd yn oed yn yr haf gall fod yn rhewi ar ben y rhosydd a gall y tywydd newid yn gyflym.

Cadwraeth

Gyda chymaint o bobl yn ymweld â Scafell Pike, a’r traul ar y llwybrau, mae’n dasg barhaus i atgyweirio erydiad ac atal difrod pellach. Os gwelwch yn dda, allwch chi helpu i edrych ar ôl y lle hardd hwn trwy gadw at y llwybrau a pheidio â thorri corneli.

Os gallwch chi, ystyriwch roi rhywbeth yn ôl i’r lle gwych hwn trwy gyfrannu at Fix the Fells isod.