Rhestr Cyfarpar

 

Ychydig o gyngor cyn i chi fynd…

Mae ymgymryd â Her y Tri Chopa yn gyffrous, ond mae angen paratoi’n ofalus. Nid yw’n golygu cyrraedd y copaon yn unig – mae angen cynllunio hefyd ar gyfer y ffordd i lawr. Gall blinder, teimlo’n llwglyd a sychedig wneud y daith i lawr hyd yn oed yn fwy heriol na’r esgyniad, gyda’r risg o syrthio, llithro neu gamau gwag gynyddu wrth i chi flino. Mae cario’r offer cywir, gwisgo’n addas, a chymryd eich amser yn hanfodol ar gyfer profiad diogel a phleserus.

Mae diffyg paratoi, megis peidio â chario offer hanfodol neu wisgo dillad addas, yn un o’r prif resymau pam y gall Her y Tri Chopa fynd o’i le. Cofiwch eich bod yn cerdded i fyny mynyddoedd dros 3,000 troedfedd o uchder a bod gofyn gwisgo’n addas a chario’r offer cywir i gyrraedd y copaon ac i ddychwelyd yn ddiogel.

Esgidiau cerdded: Gall tir anwastad arwain at anaf. Gwisgwch esgidiau cerdded addas gyda gwadn trwchus ac ochrau uchel.

Haenau gwrth-ddŵr: Gall y tywydd newid o fewn munudau. Gall cael eich dal mewn glaw wneud i chi deimlo’n oer yn gyflym, felly cariwch haenau gwrth-ddŵr bob amser i gadw mor sych â phosib.

Haenau cynnes: Gall y tymheredd ar gopa’r mynyddoedd fod yn llawer oerach nag ar ddechrau’r llwybrau. Cariwch haenau ychwanegol bob amser.

Amddiffyniad rhag yr haul (het ag eli haul): Gallwch fod yn agored i effeithiau’r haul mewn amodau cynnes neu heulog ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae cario het ag eli haul ffactor uchel yn helpu i’ch amddiffyn rhag llosgi a salwch sy’n gysylltiedig â gwres, yn enwedig ar uchderau uwch lle mae lefelau UV yn gryfach.

Mordwyo: Cariwch map a chwmpawd, hyd yn oed os ydych yn bwriadu defnyddio ap. Ar gyfer Yr Wyddfa, rydym yn argymell ap Llwybrau’r Wyddfa, ap swyddogol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Gall apiau ddefnyddio batris yn gyflym ac efallai na fyddant yn ddibynadwy mewn tywydd gwlyb neu oer, felly mae pecyn batri yn hanfodol.

Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio map a chwmpawd rhag ofn fydd technoleg yn methu.

Bwyd a diod: Cariwch fwy nag y byddwch ei angen. Mewn argyfwng, gall pobl fod ar y mynydd am amser hir iawn, felly gall digonedd o fwyd fod yn hanfodol.

Ffôn wedi’i gwefru’n llawn: Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi’i gwefru’n llawn cyn cychwyn ar eich taith gan osgoi ei ddefnyddio oni bai mewn argyfwng. Nid oes signal o gwbl, neu signal cyfyngedig yn unig mewn rhai ardaloedd mynyddig, felly peidiwch â dibynnu ar eich ffôn fel yr unig ffordd o gyfathrebu neu mordwyo.

Pecyn batri neu wefrydd symudol: Mae’n hanfodol i gadw’ch ffôn wedi’i gwefru ar gyfer argyfwng neu wrth ddefnyddio apiau, gan fod batris yn gallu mynd yn gyflym mewn tywydd oer.

Fflachlamp: Cariwch fflachlamp a batris sbâr. Mae tebygolrwydd uchel y byddwch yn cerdded yn y tywyllwch, yn enwedig grwpiau sy’n ceisio cwblhau’r her o fewn amser cyfyngedig.

Pecyn cymorth cyntaf: Gall pecyn cymorth cyntaf fod yn ddefnyddiol i lanhau a gorchuddio unrhyw grafiadau neu glwyfau bach ac helpu i drin pothelli.

Chwiban diogelwch: Carwch chwiban i alw am help os byddwch mewn trafferth. Gall ei sŵn gyrraedd ymhellach na llais ac mae’n offeryn syml ond hanfodol mewn achosion brys.