Cynllunio eich her

Mae ymgymryd â Her y Tri Chopa yn antur gyffrous, ond mae paratoi’n ofalus yn hanfodol i wneud eich profiad yn ddiogel, yn bleserus, ac yn fuddiol i’r lleoedd rydych yn ymweld â hwy. Mae’r dudalen hon yn rhoi canllawiau cyffredinol ar gyfer y tri mynydd. Am y cyngor lleol swyddogol diweddaraf, ewch i’r tudalennau unigol ar gyfer pob ardal:

  • Yr Wyddfa (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)
  • Scafell Pike (Awdurdod Parc Cenedlaethol y Lake District)
  • Ben Nevis (Partneriaeth Tirwedd Nevis)

Cyn i chi fynd, gofynnwch y tri chwestiwn isod i’ch hunan:

  • Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
  • Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Gwiriwch ragolygon lleol.
  • Oes gen i’r offer priodol?

Os ydych yn ansicr o’ch gallu neu’r tywydd, ailystyriwch eich cynlluniau. Am ganllawiau llawn, ewch i wefan Mentra’n Gall y DU.

Mae cynllunio trylwyr yn helpu i wneud eich profiad yn fwy diogel, yn fwy pleserus, ac yn sicrhau effaith mwy cadarnhaol ar yr amgylchedd a’r cymunedau lleol. Ystyriwch:

  • Dewis eich dyddiadau’n ofalus: Osgoi cyfnodau prysur fel gwyliau banc, gwyliau ysgol, a phenwythnosau. Mae teithiau yn ystod yr wythnos yn aml yn cynnig profiad tawelach.
  • Ymestyn yr her dros sawl diwrnod: Mae hyn yn rhoi mwy o amser i fwynhau pob ardal, cefnogi busnesau lleol, ac yn lleihau pwysau ar ffyrdd, llwybrau, a chymunedau.
  • Cynllunio eich teithiau a phacio eich offer priodol: Mae llwybrau a chanllawiau swyddogol ar gyfer pob mynydd – gweler tudalennau swyddogol pob mynydd o fewn y wefan hon. Am fanylion llawn ar gyfer yr offer sydd ei angen, ewch i’n tudalen Rhestr Offer.
  • Paratoi’n gorfforol a meddyliol: Mae’r her yn cynnwys esgynfeydd a disgynfeydd sylweddol, tir amrywiol, a thywydd sy’n newid.
  • Gwiriwch opsiynau parcio, trafnidiaeth ac aros yn lleol: Gall aros yn lleol leihau teithio, cynyddu mwynhad, a chefnogi cymunedau.

Wrth gerdded i gopaon y mynyddoedd, ystyriwch eich diogelwch, pobl eraill, y cymunedau lleol a’r amgylchedd. Pwyntiau allweddol i’w hystyried:

  • Parchwch yr amgylchedd a’r cymunedau. Cadwch at y llwybrau i leihau erydiad ac i ddiogelu cynefinoedd bregus.
  • Byddwch yn ystyriol o drigolion, tirfeddianwyr, ffermwyr a defnyddwyr eraill ar y mynyddoedd bob amser.
  • Wrth gerdded heibio ardaloedd preswyl, yn enwedig yn ystod y nos, cadwch sŵn a golau i’r lleiafswm.
  • Ewch â’ch holl sbwriel adref a’i waredu’n gyfrifol.
  • Rhaid cario eich holl wastraff, gan gynnwys gwastraff bwyd a gwastraff organig (e.e. bagiau te, crwyn ffrwythau, hancesi papur), oddi ar y mynyddoedd a mynd ag ef adref i’w waredu’n briodol. Mae sbwriel sy’n cael ei adael ar ôl rhai heriau’r Tri Chopa yn gosod baich ariannol sylweddol ar awdurdodau lleol a rheolwyr tir, ac yn achosi niwed hirdymor i’r amgylchedd. Peidiwch â gadael dim ar ôl.
  • Nid oes toiledau ar gael yn gyffredinol ar y mynyddoedd.
  • Defnyddiwch y cyfleusterau cyn i chi gychwyn.
  • Ystyriwch eraill. Gadewch i gerddwyr eraill basio a byddwch yn ymwybodol o’ch sŵn (a’ch golau os ydych yn cerdded yn ystod y nos).

Galwch 999 a gofynnwch am yr heddlu ac yna’r tîm achub mynydd. Byddant yn gofyn am y manylion canlynol ar yr alwad:

  • Eich lleoliad
  • Eich enw, rhyw ac oed
  • Natur eich argyfwng neu anafiadau
  • Nifer y bobl sydd yn eich grŵp (os yn berthnasol)
  • Eich rhif ffôn symudol

Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch anfon neges destun i’r gwasanaethau brys, ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Anfonwch y gair “register” i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Mentra’n Gall y DU.

Ar ôl eich her

Ar ôl cwblhau eich her, ystyriwch ffyrdd o roi’n ôl a chefnogi’r ardaloedd yr ydych wedi ymweld â hwy:

  • Gwnewch rodd i’r parciau neu brosiectau cadwraeth lleol.
  • Ystyriwch aros yn hirach yn yr ardal i fwynhau mwy o amser yn lleol, cefnogi busnesau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol.
  • Mae pob ardal yn darparu gwybodaeth am roddion a gwirfoddoli:

Yr Wyddfa: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Rhoi rhodd i Barc Cenedlaethol Eryri
Gwirfoddoli yn Eryri

Scafell Pike: Awdurdod Parc Cenedlaethol y Lake District
Make a donation – Lake District National Park

Volunteering – Lake District National Park

Ben Nevis: Partneriaeth Tirwedd Nevis

Donate | Nevis Landscape Partnership

Get Involved | Nevis Landscape Partnership